1 Corinthiaid 6:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. “Y bwydydd i'r bol a'r bol i'r bwydydd,” meddwch; ond fe ddifetha Duw y naill a'r llall. Eto, nid i buteindra y mae'r corff, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corff.

14. Cyfododd Duw yr Arglwydd, ac fe'n cyfyd ninnau hefyd drwy ei allu.

15. Oni wyddoch mai aelodau Crist yw eich cyrff chwi? A gymeraf fi, felly, aelodau Crist a'u gwneud yn aelodau putain? Dim byth!

16. Neu oni wyddoch fod dyn sy'n ymlynu wrth butain yn un corff â hi? Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud, “Bydd y ddau yn un cnawd.”

1 Corinthiaid 6