1 Corinthiaid 4:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Am hynny yr wyf yn erfyn arnoch, byddwch efelychwyr ohonof fi.

17. Dyma pam yr anfonais Timotheus atoch; y mae ef yn fab annwyl i mi, ac yn ffyddlon yn yr Arglwydd, a bydd yn dwyn ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, fel y byddaf yn eu dysgu ym mhobman, ym mhob eglwys.

18. Y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i am ddod atoch.

19. Ond yr wyf am ddod atoch ar fyrder, os caniatâ'r Arglwydd, a chaf wybod, nid am siarad y rhai sydd wedi ymchwyddo, ond am eu gallu.

20. Oherwydd nid mewn siarad y mae teyrnas Dduw, ond mewn gallu.

1 Corinthiaid 4