1 Corinthiaid 2:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. A minnau, pan ddeuthum atoch, gyfeillion, ni ddeuthum fel un yn rhagori mewn huodledd neu ddoethineb, wrth gyhoeddi i chwi ddirgelwch Duw.

2. Oherwydd dewisais beidio â gwybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, ac yntau wedi ei groeshoelio.

3. Mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr y bûm i yn eich plith;

4. a'm hymadrodd i a'm pregeth, nid geiriau deniadol doethineb oeddent, ond amlygiad sicr o'r Ysbryd a'i nerth,

5. er mwyn i'ch ffydd fod yn seiliedig, nid ar ddoethineb ddynol, ond ar allu Duw.

1 Corinthiaid 2