1 Corinthiaid 16:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Y mae'r credinwyr i gyd yn eich cyfarch. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.

21. Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul.

22. Os oes rhywun nad yw'n caru'r Arglwydd, bydded dan felltith. Marana tha.

23. Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi!

24. Fy nghariad innau fyddo gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu!

1 Corinthiaid 16