1 Corinthiaid 16:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Os daw Timotheus, gofalwch ei wneud yn ddibryder yn eich plith, oherwydd y mae ef, fel minnau, yn gwneud gwaith yr Arglwydd.

11. Am hynny, peidied neb â'i ddiystyru, ond hebryngwch ef ar ei ffordd â sêl eich bendith, iddo gael dod ataf fi. Oherwydd yr wyf yn ei ddisgwyl gyda'r credinwyr.

12. Ynglŷn â'n brawd Apolos, erfyniais yn daer arno i ddod atoch gyda'r lleill, ond nid oedd yn fodlon o gwbl ddod ar hyn o bryd. Ond fe ddaw pan fydd gwell cyfle.

1 Corinthiaid 16