1 Corinthiaid 15:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Y gelyn olaf a ddilëir yw angau.

27. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “darostyngodd bob peth dan ei draed ef.” Ond pan yw'n dweud bod pob peth wedi ei ddarostwng, y mae'n amlwg nad yw hyn yn cynnwys Duw, yr un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef.

28. Ond pan fydd pob peth wedi ei ddarostwng i'r Mab, yna fe ddarostyngir y Mab yntau i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, ac felly Duw fydd oll yn oll.

1 Corinthiaid 15