1 Corinthiaid 14:28-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Os nad oes dehonglydd yn bresennol, bydded y llefarydd yn ddistaw yn y gynulleidfa, a llefaru wrtho'i hun ac wrth Dduw.

29. Dim ond dau neu dri o'r proffwydi sydd i lefaru, a'r lleill i bwyso'r neges.

30. Os daw datguddiad i rywun arall sy'n eistedd gerllaw, bydded i'r proffwyd sy'n llefaru dewi.

31. Oherwydd gall pawb ohonoch broffwydo, bob yn un, er mwyn i bawb gael addysg a chysur.

32. Ac y mae ysbryd pob proffwyd yn ddarostyngedig i'r proffwyd.

33. Nid Duw anhrefn yw Duw, ond Duw heddwch.Yn ôl y drefn ym mhob un o eglwysi'r saint,

1 Corinthiaid 14