1 Corinthiaid 13:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Os llefaraf â thafodau meidrolion ac angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar.

2. Ac os oes gennyf ddawn proffwydo, ac os wyf yn gwybod y dirgelion i gyd, a phob gwybodaeth, ac os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim.

1 Corinthiaid 13