1 Corinthiaid 11:8-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Oherwydd nid y gŵr a ddaeth o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr.

9. Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gŵr.

10. Am hynny, dylai'r wraig gael arwydd awdurdod ar ei phen, o achos yr angylion.

11. Beth bynnag am hynny, yn yr Arglwydd y mae'r gŵr yn angenrheidiol i'r wraig a'r wraig yn angenrheidiol i'r gŵr.

12. Oherwydd fel y daeth y wraig o'r gŵr, felly hefyd y daw'r gŵr drwy'r wraig. A daw'r cwbl o Dduw.

13. Barnwch drosoch eich hunain: a yw'n weddus i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen?

14. Onid yw natur ei hun yn eich dysgu mai anfri yw i ddyn dyfu ei wallt yn hir,

15. ond mai gogoniant gwraig yw tyfu ei gwallt hi'n hir? Oherwydd rhoddwyd ei gwallt iddi hi i fod yn fantell iddi.

1 Corinthiaid 11