1 Corinthiaid 11:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Byddwch yn efelychwyr ohonof fi, fel yr wyf finnau o Grist.

2. Yr wyf yn eich canmol chwi am eich bod yn fy nghofio ym mhob peth, ac yn cadw'r traddodiadau fel y traddodais hwy ichwi.

3. Ond yr wyf am ichwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, ac mai pen y wraig yw'r gŵr, ac mai pen Crist yw Duw.

4. Y mae pob gŵr sy'n gweddïo neu'n proffwydo â rhywbeth am ei ben yn gwaradwyddo'i ben.

1 Corinthiaid 11