1 Corinthiaid 10:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Digwyddodd y pethau hyn yn esiamplau i ni, i'n rhybuddio rhag chwenychu pethau drwg, fel y gwnaethant hwy.

7. Peidiwch â bod yn eilunaddolwyr, fel rhai ohonynt hwy; fel y mae'n ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, a chodi i gyfeddach.”

8. Peidiwn chwaith â chyflawni anfoesoldeb rhywiol, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—a syrthiodd tair mil ar hugain mewn un diwrnod.

1 Corinthiaid 10