1 Corinthiaid 1:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw.

30. Ond trwy ei weithred ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad a phrynedigaeth.

31. Felly, fel y mae'n ysgrifenedig, “Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.”

1 Corinthiaid 1