1 Brenhinoedd 9:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ar derfyn ugain mlynedd, wedi i Solomon adeiladu'r ddau dŷ, sef tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, fe roes y brenin ugain tref yng Ngalilea i Hiram,

11. am fod Hiram brenin Tyrus wedi cyflenwi coed cedrwydd a ffynidwydd ac aur, gymaint ag a ddymunai, i Solomon.

12. Ond pan ddaeth Hiram o Tyrus i edrych y trefi a roes Solomon iddo, nid oeddent wrth ei fodd,

13. a dywedodd, “Beth yw'r trefi hyn yr wyt wedi eu rhoi imi, fy mrawd?” A gelwir hwy Gwlad Cabwl hyd heddiw.

14. Chwe ugain talent o aur a anfonodd Hiram at y brenin.

1 Brenhinoedd 9