1 Brenhinoedd 9:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi i Solomon orffen adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin a'r cwbl a ddymunai ei wneud,

2. fe ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo'r eildro, fel yr oedd wedi ymddangos iddo yn Gibeon.

3. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Clywais dy weddi a'th ddeisyfiad a wnaethost ger fy mron; cysegrais y tŷ hwn a godaist, a gosod f'enw yno am byth, a bydd fy llygaid a'm calon tuag yno hyd byth.

4. Ac os byddi di'n rhodio ger fy mron fel y rhodiodd dy dad Dafydd, yn gywir ac uniawn, a gwneud popeth a orchmynnaf iti, a chadw fy neddfau a'm cyfreithiau,

5. yna sicrhaf dy orsedd frenhinol dros Israel am byth, fel y dywedais wrth dy dad Dafydd, ‘Gofalaf na fyddi heb etifedd ar orsedd Israel.’

1 Brenhinoedd 9