1 Brenhinoedd 7:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Yr oedd y rhai hyn i gyd, y tu mewn a'r tu allan, o feini trymion, wedi eu torri i fesur a'u llifio, o'r sylfaen i'r bondo, o gwrt tŷ'r ARGLWYDD, hyd y cwrt mawr.

10. Yr oedd y sylfeini o feini mawr, trymion, rhai o wyth a rhai o ddeg cufydd;

11. ac uwchben, meini trymion wedi eu torri i fesur, a chedrwydd.

12. Yr oedd gan y cwrt mawr dri chwrs o gerrig nadd a chwrs o drawstiau cedrwydd, a'r un modd cwrt mewnol tŷ'r ARGLWYDD hyd borth y tŷ.

1 Brenhinoedd 7