1 Brenhinoedd 7:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yna gwnaeth rwydwaith a phlethiadau o gadwynwaith i'r naill a'r llall o'r cnapiau ar ben y colofnau.

18. Gwnaeth bomgranadau yn ddwy res ar y rhwydwaith o'i amgylch, i guddio'r cnapiau ar ben y naill golofn a'r llall.

19. Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn y porth yn waith lili am bedwar cufydd.

20. Yr oedd y cnapiau ar ben y colofnau yn codi o'r cylch crwn oedd gogyfer â'r rhwydwaith, ac yr oedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o gylch y ddau gnap.

21. Gosododd y colofnau ym mhorth y deml; cododd y golofn dde a'i galw'n Jachin, yna cododd y golofn chwith a'i galw'n Boas.

22. Ar ben y colofnau yr oedd gwaith lili; ac fel hyn y gorffennwyd gwaith y colofnau.

1 Brenhinoedd 7