1 Brenhinoedd 4:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Baana fab Ahilud yn Taanach a Megido a holl Beth-sean, sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Beth-sean hyd Abel-mehola a thu hwnt i Jocmeam;

13. Ben-geber yn Ramoth-gilead (ganddo ef yr oedd Hafoth-jair fab Manasse, sydd yn Gilead, a Hebel-argob, sydd yn Basan—trigain o ddinasoedd mawr â chaerau a barrau pres);

14. Ahinadab fab Ido yn Mahanaim;

15. Ahimaas yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, merch Solomon, yn wraig);

16. Baana fab Jusai yn Aser ac Aloth;

17. Jehosaffat fab Parus yn Issachar;

18. Simei fab Ela yn Benjamin;

19. Geber fab Uri yn nhiriogaeth Gilead (gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan). Yr oedd un prif raglaw dros y wlad.

1 Brenhinoedd 4