1 Brenhinoedd 21:8-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, a'u selio â'i sêl, a'u hanfon at yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas â Naboth.

9. Yn y llythyrau yr oedd wedi ysgrifennu, “Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth i fyny o flaen y bobl,

10. a dau ddihiryn i dystio yn ei erbyn, ‘Yr wyt ti wedi melltithio Duw a'r brenin.’ Yna ewch ag ef allan a'i labyddio'n gelain.”

11. A gwnaed â Naboth gan yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas ag ef yn union fel y gorchmynnodd Jesebel yn y llythyrau a ysgrifennodd atynt.

12. Wedi cyhoeddi ympryd, gosodasant Naboth i fyny o flaen y bobl,

13. a daeth y ddau ddihiryn ac eistedd o'i flaen, a thystio yn erbyn Naboth gerbron y bobl a dweud, “Y mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin.” Aed ag ef y tu allan i'r ddinas a'i labyddio â cherrig nes iddo farw.

14. Yna anfonasant neges at Jesebel: “Mae Naboth wedi ei labyddio ac wedi marw.”

15. Cyn gynted ag y clywodd Jesebel fod Naboth wedi ei labyddio'n gelain, dywedodd wrth Ahab, “Cod, meddianna'r winllan y gwrthododd Naboth y Jesreeliad ei hildio iti am arian. Nid yw Naboth yn fyw; y mae wedi marw.”

16. A phan glywodd Ahab fod Naboth wedi marw, aeth i lawr i winllan Naboth y Jesreeliad i'w meddiannu.

17. Daeth gair yr ARGLWYDD at Elias y Thesbiad a dweud,

18. “Cod, a dos i lawr i gyfarfod Ahab brenin Israel yn Samaria. Fe'i cei yng ngwinllan Naboth; y mae wedi mynd yno i'w meddiannu.

19. Dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Wedi llofruddio, a fynni di hefyd feddiannu?” ’ Dywed hefyd wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, fe lyfant dy waed dithau.” ’ ”

1 Brenhinoedd 21