1 Brenhinoedd 21:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. a dau ddihiryn i dystio yn ei erbyn, ‘Yr wyt ti wedi melltithio Duw a'r brenin.’ Yna ewch ag ef allan a'i labyddio'n gelain.”

11. A gwnaed â Naboth gan yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas ag ef yn union fel y gorchmynnodd Jesebel yn y llythyrau a ysgrifennodd atynt.

12. Wedi cyhoeddi ympryd, gosodasant Naboth i fyny o flaen y bobl,

13. a daeth y ddau ddihiryn ac eistedd o'i flaen, a thystio yn erbyn Naboth gerbron y bobl a dweud, “Y mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin.” Aed ag ef y tu allan i'r ddinas a'i labyddio â cherrig nes iddo farw.

14. Yna anfonasant neges at Jesebel: “Mae Naboth wedi ei labyddio ac wedi marw.”

1 Brenhinoedd 21