1 Brenhinoedd 2:42-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, “Oni thynghedais di yn enw'r ARGLWYDD? Oni rybuddiais di y byddit farw'n gelain y dydd yr ait allan i unrhyw fan? A dywedaist wrthyf, ‘Purion! Fe ufuddhaf.’

43. Pam na chedwaist lw yr ARGLWYDD a'r gorchymyn a roddais i ti?”

44. Yna dywedodd y brenin wrth Simei, “Fe wyddost yn dy galon yr holl ddrygioni a wnaethost i'm tad Dafydd.

45. Fe ddial yr ARGLWYDD dy ddrygioni arnat, ond bendithir y Brenin Solomon, a sicrheir gorsedd Dafydd gerbron yr ARGLWYDD yn dragywydd.”

46. Yna rhoes y brenin orchymyn i Benaia fab Jehoiada; aeth yntau allan ac ymosod ar Simei, a bu ef farw. A sicrhawyd y frenhiniaeth yn llaw Solomon.

1 Brenhinoedd 2