1 Brenhinoedd 19:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Atebodd yntau, “Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.”

15. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos yn ôl i gyfeiriad anialwch Damascus, a phan gyrhaeddi, eneinia Hasael yn frenin ar Syria,

16. a Jehu fab Nimsi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Saffat o Abel-mehola yn broffwyd yn dy le.

17. Pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, bydd Jehu yn ei ladd; pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehu, bydd Eliseus yn ei ladd.

18. Ond gadawaf yn weddill yn Israel y saith mil sydd heb blygu glin i Baal, na'i gusanu.”

1 Brenhinoedd 19