1 Brenhinoedd 18:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael.

30. Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, “Dewch yn nes ataf”; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio;

31. a chymerodd ddeuddeg carreg, yn ôl nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, “Israel fydd dy enw”).

32. Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had.

33. Trefnodd y coed, a darnio'r bustach a'i osod ar y coed,

1 Brenhinoedd 18