1 Brenhinoedd 18:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Atebodd yntau, “Nid myfi sydd wedi cythryblu Israel, ond tydi a'th deulu, drwy wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD a dilyn y Baalim.

19. Anfon yn awr a chasgla ataf holl Israel i Fynydd Carmel, a hefyd y pedwar cant a hanner o broffwydi Baal a'r pedwar cant o broffwydi Asera y mae Jesebel yn eu cynnal.”

20. Anfonodd Ahab at yr holl Israeliaid, a chasglu'r proffwydi i Fynydd Carmel.

21. Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, “Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw.” Ond nid atebodd y bobl air iddo.

22. Yna meddai Elias wrth y bobl, “Myfi fy hunan a adawyd yn broffwyd i'r ARGLWYDD, tra mae proffwydi Baal yn bedwar cant a hanner.

23. Rhodder inni ddau fustach, hwy i ddewis un a'i ddatgymalu a'i osod ar y coed, ond heb roi tân dano; a gwnaf finnau'r llall yn barod a'i osod ar y coed, heb roi tân dano.

24. Yna galwch chwi ar eich duw chwi, a galwaf finnau ar yr ARGLWYDD, a'r duw a etyb drwy dân fydd Dduw.”

1 Brenhinoedd 18