1 Brenhinoedd 17:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen.

6. Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant.

7. Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad,

8. a daeth gair yr ARGLWYDD ato:

9. “Cod a dos i Sareffath, sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno; wele, yr wyf yn peri i wraig weddw yno dy borthi.”

1 Brenhinoedd 17