1 Brenhinoedd 16:5-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ac onid yw gweddill hanes Baasa, ei hynt a'i wrhydri, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

6. Pan fu farw Baasa, claddwyd ef yn Tirsa, a daeth ei fab Ela yn frenin yn ei le.

7. Ond yr oedd gair yr ARGLWYDD wedi dod at Baasa a'i deulu drwy'r proffwyd Jehu fab Hanani am y drygioni a wnaeth yng ngolwg yr ARGLWYDD trwy ei ddigio â'i weithredoedd, a dod yn debyg i deulu Jeroboam; a hefyd am iddo ddinistrio hwnnw.

8. Yn y chweched flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Ela fab Baasa yn frenin ar Israel yn Tirsa, a theyrnasu am ddwy flynedd.

9. Yna gwnaeth ei was Simri, capten hanner y cerbydau, gynllwyn yn ei erbyn. Pan oedd y brenin yn Tirsa yn feddw chwil yn nhŷ Arsa rheolwr y tŷ yn Tirsa,

10. daeth Simri a'i daro'n farw; a daeth yn frenin yn ei le yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda.

11. Pan esgynnodd i'r orsedd ar ddechrau ei deyrnasiad, lladdodd bob un o deulu Baasa, heb adael ohonynt yr un gwryw, na châr na chyfaill.

12. Dinistriodd Simri holl dylwyth Baasa yn ôl gair yr ARGLWYDD wrth Baasa drwy'r proffwyd Jehu,

13. oherwydd i Baasa a'i fab Ela bechu cymaint eu hunain a pheri i Israel bechu a digio ARGLWYDD Dduw Israel â'u heilunod.

14. Ac onid yw gweddill hanes Ela, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

15. Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Simri'n frenin am saith diwrnod yn Tirsa. Yr oedd y bobl yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon, a oedd ym meddiant y Philistiaid;

16. a phan glywsant fod Simri wedi cynllwyn a lladd y brenin, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll gwnaeth holl Israel Omri, capten y llu, yn frenin ar Israel.

17. Yna aeth Omri i fyny o Gibbethon, a holl Israel gydag ef, a gwarchae ar Tirsa.

18. A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei chipio, aeth i gaer tŷ'r brenin a llosgi tŷ'r brenin am ei ben, a bu farw.

19. Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a gyflawnodd drwy wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD a dilyn llwybr Jeroboam, a'r pechod a wnaeth ef i beri i Israel bechu.

20. Ac onid yw gweddill hanes Simri a'i gynllwyn wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

21. Yr adeg honno rhannwyd cenedl Israel yn ddwy, gyda hanner y genedl yn dilyn Tibni fab Ginath i'w godi'n frenin, a'r hanner arall yn dilyn Omri.

22. Trechodd y bobl oedd yn dilyn Omri ddilynwyr Tibni fab Ginath, a phan fu Tibni farw, Omri oedd yn frenin.

23. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Omri yn frenin ar Israel, a theyrnasu am ddeuddeng mlynedd.

24. Wedi teyrnasu am chwe blynedd yn Tirsa, prynodd Fynydd Samaria gan Semer am ddwy dalent o arian, ac adeiladu ar y mynydd ddinas, a alwodd yn Samaria ar ôl Semer perchennog y mynydd.

1 Brenhinoedd 16