1 Brenhinoedd 15:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Pan glywodd Baasa, rhoddodd heibio adeiladu Rama ac ymsefydlodd yn Tirsa.

22. Yna gorchmynnodd y Brenin Asa holl Jwda yn ddieithriad i gymryd meini a choed Rama, y bu Baasa yn ei hadeiladu; a defnyddiodd hwy i adeiladu Geba Benjamin a Mispa.

23. Ac onid yw gweddill hanes Asa, ei holl wrhydri, y cwbl a wnaeth, a'r dinasoedd a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda, oddieithr iddo yn ei henaint ddioddef o glefyd yn ei draed?

1 Brenhinoedd 15