1 Brenhinoedd 13:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. A rhoddodd argoel y dydd hwnnw, a dweud, “Dyma'r argoel a addawodd yr ARGLWYDD: bydd yr allor yn ddrylliau, a chwelir y lludw sydd arni.”

4. Pan glywodd y Brenin Jeroboam y gair a gyhoeddodd gŵr Duw yn erbyn yr allor ym Methel, estynnodd ei law dros yr allor a dweud, “Cydiwch ynddo!” Ond gwywodd y llaw a estynnodd ato, ac ni fedrai ei thynnu'n ôl.

5. Yna drylliwyd yr allor a chwalwyd y lludw o'r allor, yn unol â'r argoel a roddodd gŵr Duw drwy air yr ARGLWYDD.

6. Yna dywedodd y brenin wrth ŵr Duw, “Ymbil â'r ARGLWYDD dy Dduw a gweddïa ar fy rhan fel y caiff fy llaw ei hadfer.” Ymbiliodd gŵr Duw ar yr ARGLWYDD, ac adferwyd llaw'r brenin iddo fel yr oedd cynt.

7. A dywedodd y brenin wrth ŵr Duw, “Tyrd adref gyda mi am damaid, imi roi rhodd iti.”

1 Brenhinoedd 13