1 Brenhinoedd 13:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Tra oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor i offrymu, daeth gŵr Duw o Jwda i Fethel yn ôl gair yr ARGLWYDD.

2. A chyhoeddodd yn erbyn yr allor drwy air yr ARGLWYDD: “Allor, allor, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele, fe enir mab i linach Dafydd o'r enw Joseia; bydd ef yn aberthu arnat offeiriaid yr uchelfeydd sy'n offrymu arnat, a llosgir arnat esgyrn dynol.’ ”

1 Brenhinoedd 13