1 Brenhinoedd 11:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb lwyr ddilyn yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

7. Dyna'r pryd yr adeiladodd Solomon uchelfa i Cemos ffieiddbeth Moab, ac i Moloch ffieiddbeth yr Ammoniaid, ar y mynydd i'r dwyrain o Jerwsalem.

8. Gwnaeth yr un modd i'w holl wragedd estron oedd yn parhau i arogldarthu ac aberthu i'w duwiau.

9. Digiodd yr ARGLWYDD wrth Solomon am iddo droi oddi wrth ARGLWYDD Dduw Israel, ac yntau wedi ymddangos ddwywaith iddo,

10. a'i rybuddio ynglŷn â hyn, nad oedd i addoli duwiau eraill.

1 Brenhinoedd 11