1 Brenhinoedd 11:21-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ond pan glywodd Hadad yn yr Aifft fod Dafydd wedi marw, a bod Joab capten y llu hefyd wedi marw, dywedodd wrth Pharo, “Gad imi fynd i'm gwlad fy hun.”

22. Gofynnodd Pharo, “Ond beth sy'n brin arnat gyda mi, dy fod am fynd adref?” Meddai yntau, “Dim, ond gad imi fynd.”

23. Gwrthwynebydd arall a gododd Duw i Solomon oedd Reson fab Eliada. Yr oedd hwn wedi ffoi oddi wrth ei arglwydd, Hadadeser brenin Soba.

24. Casglodd rai o'i gwmpas a mynd yn gapten gwylliaid, ar ôl y lladdfa a wnaeth Dafydd arnynt, ac aethant i fyw i Ddamascus a'i rheoli.

25. Bu'n wrthwynebydd i Israel tra bu Solomon yn fyw, ac yn gwneud cymaint o ddrwg â Hadad, am ei fod yn ffieiddio Israel ac yn frenin ar Syria.

26. Un arall a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin oedd Jeroboam fab Nebat, Effratead o Sereda, a swyddog i Solomon; gwraig weddw o'r enw Serfa oedd ei fam.

27. A dyma'r achos iddo wrthryfela yn erbyn y brenin: pan oedd Solomon yn codi'r Milo ac yn cau'r bwlch ym mur dinas ei dad Dafydd,

28. yr oedd Jeroboam yn ŵr medrus; a phan welodd Solomon sut yr oedd y llanc yn gwneud ei waith, gwnaeth ef yn arolygwr dros holl fintai llafur gorfod llwyth Joseff.

29. Y pryd hwnnw digwyddodd i Jeroboam fynd o Jerwsalem, ac ar y ffordd cyfarfu â'r proffwyd Aheia o Seilo mewn mantell newydd, heb neb ond hwy ill dau yn y fan.

30. Cydiodd Aheia yn y fantell newydd oedd amdano a'i rhwygo'n ddeuddeg darn,

31. a dweud wrth Jeroboam, “Cymer ddeg o'r darnau, oherwydd fel hyn y dywedodd ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Yr wyf ar rwygo'r deyrnas o afael Solomon, a rhoi i ti ddeg o'r llwythau.

32. Ond caiff ef un llwyth er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais allan o holl lwythau Israel.

33. Gwnaf hyn am ei fod wedi fy ngwadu i ac addoli Astoreth duwies y Sidoniaid, a Chemos duw Moab, a Milcom duw'r Ammoniaid, ac am nad yw wedi cerdded yn fy llwybrau i fel ei dad Dafydd, na gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf fi, sef cadw fy ordeiniadau a'm barnedigaethau.

34. Eto nid wyf am gymryd y deyrnas i gyd o'i ddwylo; yn hytrach gadawaf ef yn bennaeth am ei oes, er mwyn fy ngwas Dafydd, a ddewisais ac a gadwodd fy ngorchmynion a'm deddfau.

35. Ond yr wyf am gymryd y deyrnas oddi ar ei fab a rhoi deg llwyth ohoni i ti.

36. Rhoddaf un llwyth i'w fab, fel y caiff fy ngwas Dafydd lamp ger fy mron am byth yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi fy hun i osod fy enw yno.

37. Dewisaf dithau i deyrnasu ar gymaint ag a ddymuni, a byddi'n frenin ar Israel.

38. Ac os gwrandewi ar bopeth a orchmynnaf, a rhodio yn fy ffyrdd, a gwneud yr hyn sy'n iawn gennyf, sef cadw fy neddfau a'm gorchmynion fel y gwnaeth fy ngwas Dafydd, byddaf gyda thi a chodaf iti dŷ sicr fel y gwneuthum i Ddafydd.

39. Rhoddaf Israel i ti er mwyn cosbi hil Dafydd oherwydd hyn; eto nid am byth chwaith.’ ”

1 Brenhinoedd 11