1 Brenhinoedd 11:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Carodd y Brenin Solomon lawer o ferched estron heblaw merch Pharo—merched o Moab, Ammon, Edom, Sidon a'r Hethiaid,

2. y cenhedloedd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid amdanynt, “Peidiwch â'u priodi, a pheidiwch â rhoi mewn priodas iddynt; byddant yn sicr o'ch hudo i ddilyn eu duwiau.” Ond dal i'w caru a wnâi Solomon.

3. Yr oedd ganddo saith gant o brif wragedd a thri chant o ordderchwragedd; a hudodd ei wragedd ef.

4. Pan heneiddiodd Solomon, hudodd ei wragedd ef i ddilyn duwiau estron, ac nid oedd ei galon yn llwyr gyda'r ARGLWYDD ei Dduw, fel y bu calon ei dad Dafydd.

5. Aeth Solomon i addoli Astoreth duwies y Sidoniaid, a Milcom ffieiddbeth yr Ammoniaid;

6. a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb lwyr ddilyn yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

1 Brenhinoedd 11