1 Brenhinoedd 10:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Casglodd Solomon gerbydau a meirch; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chyda'r brenin yn Jerwsalem.

27. Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela.

28. O'r Aifft a Cŵe y dôi ceffylau Solomon, a byddai porthmyn y brenin yn eu cyrchu o Cŵe am bris penodedig.

1 Brenhinoedd 10