1 Brenhinoedd 1:28-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Atebodd y Brenin Dafydd, “Galwch Bathseba.” Daeth hithau i ŵydd y brenin a sefyll o'i flaen.

29. Yna tyngodd y brenin a dweud, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a waredodd fy mywyd o bob cyfyngder,

30. yn ddiau fel y tyngais i ti trwy'r ARGLWYDD, Duw Israel, mai Solomon dy fab a deyrnasai ar fy ôl, ac eistedd ar fy ngorsedd yn fy lle, felly yn ddiau y gwnaf y dydd hwn.”

31. Ymostyngodd Bathseba â'i hwyneb i'r llawr ac ymgrymu i'r brenin, a dweud, “Boed i'm harglwydd, y Brenin Dafydd, fyw byth!”

32. Dywedodd y Brenin Dafydd, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada.”

33. Daethant i ŵydd y brenin, a dywedodd y brenin wrthynt, “Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi, a pheri i'm mab Solomon farchogaeth ar fy mules, a dewch ag ef i lawr i Gihon.

1 Brenhinoedd 1