Y Salmau 99:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy—sanctaidd yw ef.

4. Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder.Ti sydd wedi sefydlu uniondeb;gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.

5. Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw;ymgrymwch o flaen ei droedfainc—sanctaidd yw ef.

6. Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid,a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw;galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy.

Y Salmau 99