Y Salmau 97:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Y mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,a'r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant.

7. Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwausy'n ymffrostio mewn eilunod;ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau.

8. Clywodd Seion a llawenhau,ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoledduo achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD.

9. Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear;yr wyt wedi dy ddyrchafu'n uwch o lawer na'r holl dduwiau.

Y Salmau 97