Y Salmau 94:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Pwy a saif drosof yn erbyn y drygionus,a sefyll o'm plaid yn erbyn gwneuthurwyr drygioni?

17. Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyobyddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd.

18. Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro,yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.

19. Er bod pryderon fy nghalon yn niferus,y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.

20. A fydd cynghrair rhyngot ti a llywodraeth distryw,sy'n cynllunio niwed trwy gyfraith?

21. Cytunant รข'i gilydd am fywyd y cyfiawn,a chondemnio'r dieuog i farw.

22. Ond y mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn i mi,a'm Duw yn graig i'm llochesu.

Y Salmau 94