Y Salmau 91:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr,ac oddi wrth bla difaol;

4. bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll,a chei nodded dan ei adenydd;bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.

5. Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos,na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,

6. rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch,na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.

Y Salmau 91