Y Salmau 91:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf,ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,

2. yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer,fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”

3. Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr,ac oddi wrth bla difaol;

4. bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll,a chei nodded dan ei adenydd;bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.

5. Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos,na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,

6. rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch,na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.

Y Salmau 91