Y Salmau 90:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig,a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid.

10. Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes,neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.

11. Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter,a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?

12. Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,inni gael calon ddoeth.

Y Salmau 90