Y Salmau 89:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth,a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn.

18. Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD,a'n brenin i Sanct Israel.

19. Gynt lleferaist mewn gweledigaethwrth dy ffyddloniaid a dweud,“Gosodais goron ar un grymus,a dyrchafu un a ddewiswyd o blith y bobl.

20. Cefais Ddafydd, fy ngwas,a'i eneinio â'm holew sanctaidd;

21. bydd fy llaw yn gadarn gydag ef,a'm braich yn ei gryfhau.

22. Ni fydd gelyn yn drech nag ef,na'r drygionus yn ei ddarostwng.

Y Salmau 89