Y Salmau 89:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori,sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,

16. sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw,ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.

17. Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth,a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn.

18. Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD,a'n brenin i Sanct Israel.

19. Gynt lleferaist mewn gweledigaethwrth dy ffyddloniaid a dweud,“Gosodais goron ar un grymus,a dyrchafu un a ddewiswyd o blith y bobl.

Y Salmau 89