Y Salmau 88:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch,a'th fuddugoliaethau yn nhir angof?

13. Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am gymorth, O ARGLWYDD,ac yn y bore daw fy ngweddi atat.

14. O ARGLWYDD, pam yr wyt yn fy ngwrthod,ac yn cuddio dy wyneb oddi wrthyf?

15. Anghenus wyf, ac ar drengi o'm hieuenctid;dioddefais dy ddychrynfeydd, ac yr wyf mewn dryswch.

16. Aeth dy ddigofaint drosof,ac y mae dy ymosodiadau yn fy nifetha.

Y Salmau 88