Y Salmau 79:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth?A yw dy eiddigedd i losgi fel tân?

6. Tywallt dy lid ar y cenhedloeddnad ydynt yn dy adnabod,ac ar y teyrnasoeddnad ydynt yn galw ar dy enw,

7. am iddynt ysu Jacoba difetha ei drigfan.

8. Paid â dal yn ein herbyn ni ddrygioni ein hynafiaid,ond doed dy dosturi atom ar frys,oherwydd fe'n darostyngwyd yn llwyr.

9. Cymorth ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth,oherwydd anrhydedd dy enw;gwared ni, a maddau ein pechodauer mwyn dy enw.

Y Salmau 79