Y Salmau 78:45-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

45. Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu,a llyffaint a oedd yn eu difa.

46. Rhoes eu cnwd i'r lindys,a ffrwyth eu llafur i'r locust.

47. Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,a'u sycamorwydd â glawogydd.

48. Rhoes eu gwartheg i'r haint,a'u diadell i'r plâu.

49. Anfonodd ei lid mawr arnynt,a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid—cwmni o negeswyr gwae—

50. a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd.Nid arbedodd hwy rhag marwolaethond rhoi eu bywyd i'r haint.

51. Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft,blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham.

Y Salmau 78