Y Salmau 78:43-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. pan roes ei arwyddion yn yr Aiffta'i ryfeddodau ym meysydd Soan.

44. Fe drodd eu hafonydd yn waed,ac ni allent yfed o'u ffrydiau.

45. Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu,a llyffaint a oedd yn eu difa.

46. Rhoes eu cnwd i'r lindys,a ffrwyth eu llafur i'r locust.

47. Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,a'u sycamorwydd â glawogydd.

Y Salmau 78