Y Salmau 78:39-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

39. Cofiodd mai cnawd oeddent,gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd.

40. Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch,a pheri gofid iddo yn y diffeithwch!

41. Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw,a blino Sanct Israel.

42. Nid oeddent yn cofio ei rymy dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn,

43. pan roes ei arwyddion yn yr Aiffta'i ryfeddodau ym meysydd Soan.

44. Fe drodd eu hafonydd yn waed,ac ni allent yfed o'u ffrydiau.

45. Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu,a llyffaint a oedd yn eu difa.

Y Salmau 78