Y Salmau 76:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae Duw'n adnabyddus yn Jwda,a'i enw'n fawr yn Israel;

2. y mae ei babell wedi ei gosod yn Salem,a'i gartref yn Seion.

3. Yno fe faluriodd y saethau tanllyd,y darian, y cleddyf a'r arfau rhyfel.Sela

4. Ofnadwy wyt ti, a chryfachna'r mynyddoedd tragwyddol.

5. Ysbeiliwyd y rhai cryf o galon,y maent wedi suddo i gwsg,a phallodd nerth yr holl ryfelwyr.

Y Salmau 76