Y Salmau 73:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser;yr wyt yn cydio yn fy neheulaw.

24. Yr wyt yn fy arwain â'th gyngor,ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant.

25. Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti?Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear.

26. Er i'm calon a'm cnawd ballu,eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.

27. Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt,a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti.

Y Salmau 73