Y Salmau 71:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliantac o'th ogoniant bob amser.

9. Paid â'm bwrw ymaith yn amser henaint;paid â'm gadael pan fydd fy nerth yn pallu.

10. Oherwydd y mae fy ngelynion yn siarad amdanaf,a'r rhai sy'n gwylio am fy einioes yn trafod gyda'i gilydd,

11. ac yn dweud, “Y mae Duw wedi ei adael;ewch ar ei ôl a'i ddal, oherwydd nid oes gwaredydd.”

12. O Dduw, paid â phellhau oddi wrthyf;O fy Nuw, brysia i'm cynorthwyo.

Y Salmau 71