Y Salmau 71:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith,fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD.

6. Arnat ti y bûm yn pwyso o'm genedigaeth;ti a'm tynnodd allan o groth fy mam.Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad.

7. Bûm fel pe'n rhybudd i lawer;ond ti yw fy noddfa gadarn.

8. Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliantac o'th ogoniant bob amser.

9. Paid â'm bwrw ymaith yn amser henaint;paid â'm gadael pan fydd fy nerth yn pallu.

Y Salmau 71